2014 Rhif 567 (Cy. 68)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (“y Prif Reoliadau”), sy’n gwneud darpariaeth ynghylch yr arfer gan asiantaethau mabwysiadu (sef, awdurdodau lleol a chymdeithasau mabwysiadu cofrestredig) o’u swyddogaethau mewn perthynas â mabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Deuant i rym ar 1 Ebrill 2014.

Mae’r Prif Reoliadau yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i asiantaeth fabwysiadu, wrth ystyried mabwysiadu ar gyfer plentyn, atgyfeirio’r achos at banel mabwysiadu a fydd wedyn yn gorfod gwneud argymhelliad i’r asiantaeth ynghylch a ddylid lleoli’r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Prif Reoliadau er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i asiantaethau mabwysiadu wrth iddynt ffurfio panel mabwysiadu, pa un ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag asiantaethau mabwysiadu eraill.

Mae rheoliad 2 yn rhoi’r rheoliadau a ganlyn yn lle rheoliadau 3 i 9 o’r Prif Reoliadau:

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau mabwysiadu gynnal rhestr o bersonau y maent yn ystyried eu bod yn addas i fod yn aelodau o banel mabwysiadu (“y rhestr ganolog”), yn gwneud darpariaeth ynghylch cynnwys personau ar y rhestr ac yn darparu i ddwy neu ragor o asiantaethau mabwysiadu gynnal rhestr ar y cyd.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurfio paneli mabwysiadu, gan gynnwys darpariaeth i ddwy neu ragor o asiantaethau mabwysiadu ffurfio panel mabwysiadu ar y cyd.

Mae rheoliad 5 yn darparu nad yw rheoliad 7 yn gymwys i asiantaeth fabwysiadu nad yw ond yn gweithredu er mwyn rhoi personau mewn cysylltiad ag asiantaethau mabwysiadu eraill.

Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae panel mabwysiadu yn gallu gwneud cworwm.

Mae rheoliad 7 yn gosod dyletswydd ar asiantaethau mabwysiadu i lunio a gweithredu polisi a chyfarwyddiadau gweithdrefnol ysgrifenedig sy’n llywodraethu sut yr arferir swyddogaethau’r asiantaeth a’r panel mabwysiadu.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch penodi gweithiwr cymdeithasol sydd â’r cymwysterau a’r profiad addas yn gynghorydd asiantaeth a phenodi cynghorydd meddygol i’r panel.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyngor sydd i’w roi i baneli mabwysiadu mewn mabwysiadau ag elfen dramor iddynt.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau diwygio hyn yn gwneud darpariaethau trosiannol ynghylch achosion a atgyfeirir at banel mabwysiadu cyn 1 Ebrill 2014 ond nad ydynt wedi eu hystyried gan banel mabwysiadu erbyn y dyddiad hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


2014 Rhif 567 (Cy. 68)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed                               10 Mawrth 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       11 Mawrth 2014

Yn dod i rym                             1 Ebrill 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 9(1)(a), 140(7) ac (8), 142(4) a (5) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002([1])([2]), yn gwneud y rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2014.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2014.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005([3]). 

Diwygio’r Prif Reoliadau

2.(1)(1) Yn rheoliad 2 o’r Prif Reoliadau (dehongli) ym mharagraff (1)—

(a)     yn y diffiniad o “panel mabwysiadu” (“adoption panel”) yn lle’r geiriau “rheoliad 3” rhodder “rheoliad 4”;

(b)     yn y diffiniad o “person annibynnol” (“independent person”) yn lle’r geiriau “rheoliad 3” rhodder “rheoliad 4(8)”; ac

(c)     yn y diffiniad o “panel mabwysiadu ar y cyd” (“joint adoption panel”) yn lle’r geiriau “rheoliad 3(5)” rhodder “rheoliad 4(3)”.

(2) Yn lle rheoliadau 3 i 9 (asiantaeth fabwysiadu – trefniadau ar gyfer gwaith mabwysiadu) o’r Prif Reoliadau rhodder—

Y rhestr ganolog

3.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 5, rhaid i asiantaeth fabwysiadu gynnal rhestr o bersonau y mae’n ystyried eu bod yn addas i fod yn aelodau o banel mabwysiadu (“y rhestr ganolog”), gan gynnwys—

(a)   un neu ragor o weithwyr cymdeithasol sydd ag o leiaf dair blynedd o brofiad ôl-gymhwyso perthnasol, a

(b)  cynghorydd meddygol yr asiantaeth fabwysiadu (neu o leiaf un os oes mwy nag un cynghorydd meddygol wedi’i benodi).

(2) Caiff person sydd wedi’i gynnwys ar y rhestr ganolog ar unrhyw adeg ofyn am i’w enw gael ei ddileu o’r rhestr ganolog drwy roi mis o hysbysiad ysgrifenedig.

(3) Pan fo’r asiantaeth fabwysiadu o’r farn bod person sydd wedi’i gynnwys ar y rhestr ganolog yn anaddas neu’n analluog i barhau ar y rhestr caiff yr asiantaeth ddileu enw’r person hwnnw o’r rhestr drwy roi mis o hysbysiad ysgrifenedig iddo ynghyd â rhesymau.

(4) Caiff unrhyw ddwy neu ragor o asiantaethau mabwysiadu gynnal ar y cyd restr o bersonau y maent yn ystyried eu bod yn addas i fod yn aelodau o banel mabwysiadu.

Ffurfio’r panel mabwysiadu

4.—(1) Rhaid i asiantaeth fabwysiadu ffurfio un neu ragor o baneli mabwysiadu, yn ôl yr angen, i gyflawni swyddogaethau panel mabwysiadu o dan y Rheoliadau hyn a rhaid iddi benodi aelodau’r panel o blith y personau ar y rhestr ganolog gan gynnwys—

(a)   person i gadeirio’r panel, a hwnnw’n berson annibynnol, sydd â’r sgiliau a’r profiad sy’n angenrheidiol ar gyfer cadeirio panel mabwysiadu, a

(b)  un neu ddau berson a gaiff weithredu fel cadeirydd os yw’r person a benodwyd i gadeirio’r panel yn absennol neu os yw’r swydd honno yn wag (“yr is-gadeiryddion”).

(2) Rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu sicrhau bod digon o aelodau ar banel mabwysiadu, a bod gan yr aelodau unigol rhyngddynt y profiad a’r arbenigedd sy’n angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau’r panel yn effeithiol.

(3) Caiff unrhyw ddwy neu ragor o asiantaethau mabwysiadu ffurfio ar y cyd banel mabwysiadu (“panel mabwysiadu ar y cyd”) ac yn yr achos hwnnw rhaid i’r asiantaethau gytuno rhyngddynt ar yr aelodau a benodir.

(4) Caiff asiantaeth fabwysiadu dalu i unrhyw aelod o banel mabwysiadu a ffurfiwyd ganddi unrhyw ffi a benderfynir ganddi, sef ffi sydd yn swm rhesymol.

(5) Caiff unrhyw aelod o banel mabwysiadu ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi mis o hysbysiad ysgrifenedig i asiantaeth y panel mabwysiadu a’i penododd.

(6) Pan fo asiantaeth fabwysiadu o’r farn bod unrhyw aelod o’r panel mabwysiadu a benodwyd ganddi yn anaddas neu’n analluog i barhau yn y swydd, caiff derfynu penodiad yr aelod hwnnw ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig iddo ynghyd â rhesymau.

(7) Yn achos panel mabwysiadu ar y cyd, pan fo asiantaeth fabwysiadu o’r farn bod unrhyw aelod o banel mabwysiadu a benodwyd ganddi yn anaddas neu’n analluog i barhau yn y swydd, caiff derfynu penodiad yr aelod hwnnw ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod am y rhesymau, os yw’r asiantaethau mabwysiadu a ffurfiodd y panel yn cytuno.

(8) Nid yw person (“P”) yn berson annibynnol at ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 6—

(a)   os yw P, yn achos cymdeithas fabwysiadu gofrestredig, yn ymddiriedolwr neu’n gyflogai i’r gymdeithas honno, neu

(b)  os yw P, yn achos awdurdod lleol—

                       (i)  yn aelod etholedig o’r awdurdod hwnnw, neu

                      (ii)  yn gyflogedig gan yr awdurdod hwnnw at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu neu at ddibenion unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod lleol hwnnw sy’n ymwneud ag amddiffyn plant, neu

(c)   os yw P yn rhiant mabwysiadol i blentyn a oedd—

                       (i)  wedi’i leoli i’w fabwysiadu gyda P gan yr asiantaeth fabwysiadu (“asiantaeth A”), neu

                      (ii)  wedi’i leoli i’w fabwysiadu gyda P gan asiantaeth fabwysiadu arall pan oedd P wedi’i gymeradwyo yn berson addas i fod yn rhiant mabwysiadol gan asiantaeth A,

oni bai bod o leiaf 12 mis wedi mynd heibio ers i’r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneud mewn cysylltiad â’r plentyn.

Asiantaethau mabwysiadu yn gweithredu at ddibenion penodol yn unig

5.—(1) Pan na fo asiantaeth fabwysiadu ond yn gweithredu at ddiben rhoi personau mewn cysylltiad ag asiantaethau mabwysiadu eraill ac at ddiben rhoi’r asiantaethau hynny mewn cysylltiad â’i gilydd neu at y naill ddiben neu’r llall, nid yw rheoliadau 3, 4, 8 nac, i’r graddau y mae’n ofynnol ymgynghori â phersonau ar y rhestr ganolog, reoliad 7, yn gymwys i asiantaeth o’r fath.

Cyfarfodydd panel mabwysiadu

6.—(1) Ni chaniateir i unrhyw fusnes gael ei gynnal gan banel mabwysiadu oni bai bod o leiaf y canlynol yn cyfarfod fel panel—

(a)   naill ai’r person a benodwyd i gadeirio’r panel neu un o’r is-gadeiryddion,

(b)  un person sy’n dod o fewn rheoliad 3(1)(a),

(c)   tri, neu yn achos panel mabwysiadu a ffurfiwyd o dan reoliad 4(3), bedwar aelod arall a phan na fo’r cadeirydd yn bresennol a phan na fo’r is-gadeirydd yn berson annibynnol, rhaid i o leiaf un aelod arall o’r panel fod yn berson annibynnol.

(2) Rhaid i banel mabwysiadu wneud cofnod ysgrifenedig o’i drafodion, ei argymhellion a’r rhesymau dros ei argymhellion.

Trefniadau asiantaeth fabwysiadu ar gyfer  gwaith mabwysiadu

7.—(1) Rhaid i asiantaeth fabwysiadu, drwy ymgynghori â’r personau hynny ar y rhestr ganolog y mae’r asiantaeth yn eu hystyried yn briodol ac, i’r graddau a bennir yn rheoliad 8(4), â chynghorydd meddygol yr asiantaeth, lunio a gweithredu polisi  a chyfarwyddiadau gweithdrefnol ysgrifenedig sy’n llywodraethu sut yr arferir swyddogaethau’r asiantaeth a phanel mabwysiadu mewn perthynas â mabwysiadu, a rhaid i’r asiantaeth adolygu’r cyfarwyddiadau hynny yn gyson a, phan fo’n briodol, eu diwygio.

Gofyniad i benodi cynghorydd asiantaeth a chynghorydd meddygol

8.—(1) Rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu benodi uwch aelod o staff, neu pan fo asiantaethau mabwysiadu yn cytuno i ffurfio paneli mabwysiadu ar y cyd yn ôl yr angen, benodi uwch aelod o staff o un ohonynt (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “cynghorydd yr asiantaeth”)—

(a)   i gynorthwyo gyda’r gwaith o gynnal y rhestr ganolog a ffurfio paneli mabwysiadu,

(b)  i fod yn gyfrifol am gynefino a hyfforddi personau ar y rhestr ganolog,

(c)   i fod yn gyfrifol am gydlynu rhwng yr asiantaeth a phanel mabwysiadu, monitro perfformiad personau ar y rhestr ganolog ac aelodau o’r panel mabwysiadu a gweinyddu paneli mabwysiadu, ac

(ch) i roi unrhyw gyngor i banel mabwysiadu y mae’r panel yn gofyn amdano mewn perthynas ag unrhyw achos neu yn gyffredinol.

(2) Rhaid i gynghorydd yr asiantaeth fod yn weithiwr cymdeithasol ag o leiaf bum mlynedd o brofiad ôl-gymhwyso perthnasol ac, ym marn yr asiantaeth fabwysiadu, brofiad rheoli perthnasol.

(3) Rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu benodi o leiaf un ymarferydd meddygol cofrestredig yn gynghorydd meddygol yr asiantaeth.

(4) Rhaid ymgynghori â’r cynghorydd meddygol mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer gweld a datgelu gwybodaeth am iechyd, sy’n ofynnol neu a ganiateir yn rhinwedd y Rheoliadau hyn.

Cyngor i baneli mabwysiadu mewn mabwysiadau ag elfen dramor iddynt

9. Rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu sicrhau bod paneli mabwysiadu yn cael eu cynghori’n briodol gan berson sydd â chymwysterau priodol mewn perthynas â mabwysiadau ag elfen dramor iddynt os yw achos o’r fath yn cael ei ystyried.”

Darpariaeth drosiannol

3. Caiff panel mabwysiadu a sefydlir o dan y Prif Reoliadau, ac sy’n cyflawni swyddogaethau panel mabwysiadu ar 1 Ebrill 2014, barhau i gyflawni swyddogaethau panel o dan y Rheoliadau hynny mewn perthynas ag unrhyw achos a atgyfeirir ato cyn y dyddiad hwnnw.

 

 

 

 

Gwenda Thomas

 

Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

10 Mawrth 2014

 



([1])           2002 p.38. I gael y diffiniad o “regulations”, gweler adran 144(1).

([2])           Trosglwyddwyd y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 i Weinidogion Cymru o dan adran 162(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)           O.S. 2005/1313 (Cy.95).